|
Dragon Netball-Rules
PÊL-RWYD
Y DDRAIG
O fis Medi 2000, gêm
Pêl-rwyd Cymru i blant ysgol gynradd yw Pêl-rwyd y Ddraig.
Mae hyn yn cymryd lle Minirwyd, sef y gêm a gafodd ei chwarae ar
lefel ysgol gynradd mewn blynyddoedd diweddar. Mae Pêl-rwyd y
Ddraig yn fenter gan Bêl-rwyd Cymru ac mae'n cydredeg â
Rhaglen Chwaraeon y Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru. Rhagwelir y bydd pob
ysgol gynradd a phlant oed 7-11 yn chwarae rheolau newydd Pêl-rwyd
y Ddraig.
Gwnaethpwyd adolygiad
o'r Strwythur Hyfforddi yng Nghymdeithas Pêl-rwyd Cymru. Yn gysylltiedig
â chynllun Pêl-rwyd y Ddraig y mae'r cwrs "Dechrau
Arni" newydd sy'n cynnwys copi o'r llawlyfr Dechrau Arni. Mae'r llawlyfr
yn llawn o syniadau ac arferion hyfforddi ac mae wedi ei fwriadu ar gyfer
hyfforddwyr Pêl-rwyd y Ddraig a'r rhai sy'n dechrau eu gyrfa
hyfforddi. Mae cyrsiau Dechrau Arni yn cael eu trefnu o gwmpas y wlad
am gost o £12 y pen i bawb sy'n cymryd rhan (i aelodau'r CPC). Bydd
mwy o fanylion ar gael o Swyddfa'r CPC neu edrychwch ar ein safwe - www.welshnetball.co.uk.
Newidiad yn y Rheolau
i Blant sy'n Chwarae Pêl-rwyd y Ddraig
1. Y rheolau pêl-rwyd
arferol i oedolion sy'n berthnasol (gweler llawlyfr hyfforddi 'Dechrau
Arni' CPC).
2. Mae pyst y gôl yn cael eu newid i 2.6 metr (8 troedfedd, 6 modfedd).
3. Pêl maint 4 yn lle maint 5.
4. Llacio'r rheol 3 eiliad.
5. Llacio'r rheol troedwaith ar ddal y bêl (heb symud i lawr y cwrt).
6. Gall o leiaf 10 fod mewn tîm - mae'n caniatáu newid chwaraewyr
(eilyddio) ar chwarter, hanner a thri-chwarter amser.
7. Awgrymir 4 x 8 munud, gellir newid hyn i gyd-fynd â'r amser sydd
ar gael.
8. Cylchdroi'r chwaraewyr ar ddiwedd pob chwarter.
9. Caniatáu o leiaf dau chwarter i bob chwaraewr.
Dyfarnwyr
1. Esbonio pob penderfyniad mewn iaith syml.
2. Annog chwaraewyr mewn dull dymunol.
3. Caniatáu gêm agored a di-dor.
Pêl-rwyd
y Ddraig
Yr athroniaeth
Athroniaeth chwaraeon y Ddraig yw annog pobl i gymryd rhan a rhoi'r pwyslais
ar gael hwyl, diogelwch a datblygu sy'n addas i oed a lefel y chwaraewr.
Bydd y rheolau a roddir
ar waith, yr offer a ddefnyddir a strwythur y gêm yn cael eu haddasu.
Bydd rhaid i hyfforddwyr, dyfarnwyr a darparwyr cystadlaethau pêl-rwyd
i blant iau, wybod, deall ac ufuddhau i'r rheolau yn gysylltiedig â
Phêl-rwyd y Ddraig er mwyn sicrhau bod chwaraewyr ifanc yn ddiogel,
ac yn mwynhau a datblygu.
1. Offer
Dylid addasu'r offer i gyd-fynd â maint a cham datblygu y chwaraewyr.
Bydd hyn yn sicrhau bod y dechneg gywir yn cael ei dysgu a'i rhoi ar waith.
Yna datblygir sgiliau a bydd gan chwaraewyr fwy o obaith o gael llwyddiant
a mwynhau wrth gymryd rhan.
- Dylai'r holl byst gôl fod yn is, sef 2.6m (8' 6") ar gyfer
Pêl-rwyd y Ddraig. Bydd gosod rhwydi'n syniad da.
- Maint 4 fydd y bêl
2. Rheolau
Caiff rheolau oedolion eu defnyddio a'u hyfforddi; fodd bynnag, fe anogir
defnyddio'r amodau canlynol
- Llacio'r rheol 3 eiliad (hyd at 6 eiliad) er mwyn rhoi amser i chwaraewyr
adennill eu cydbwysedd a gwneud penderfyniadau - sydd angen mwy o amser
ar y lefel hon.
- Llacio'r rheol ynglyn â throedwaith, rhoi amser i chwaraewyr adennill
cydbwysedd, ond peidio â symud i lawr y cwrt.
- Llacio'r rheol ailchwarae, yn enwedig wrth chwarae y tu allan mewn tywydd
oer/gwlyb.
- Gorfodi'r rheol ynglyn â chyffwrdd.
- Dim cost am daflu i mewn yn anghywir, yn lle hynny - egluro i chwaraewyr
os oes angen.
- Rhoi eiliad i chwaraewyr fynd yn ôl i safle iawnochri, cosbi'r
chwaraewyr os yw'n aros mewn safle camochri ac yn effeithio ar y tîm
sydd ddim yn torri'r rheol.
- Rhoi arweiniad i'r chwaraewyr ar y rheolau yn gysylltiedig â thaflu
ceiniog er mwyn helpu chwaraewyr i fynd i'w safleoedd cywir.
- Egluro'r holl benderfyniadau mewn iaith syml.
- Rhoi anogaeth i holl chwaraewyr y ddau dîm trwy weithredu mewn
dull cefnogol.
- Llacio'r côd gwisg chwaraeon er mwyn gadael i chwaraewyr wisgo
trac-drywsusau a thopiau llewys hir (yn lliwiau'r timau os oes modd) ar
ddyddiau oer. Hefyd, gadewch i chwaraewyr sy'n perthyn i ddiwylliannau
eraill wisgo dillad o safonau derbyniol.
- Sicrhau bod timau'n chwarae gyda phêl maint 4 a bod y pyst gôl
ar yr uchder cywir, sef 2.6m (8'6").
- Gellir cadw sgorau'r gemau ond ni ddylid eu darllen yn uchel yn ystod
egwyl neu ar ddiwedd y gêm.
- Caniatewch hyd at 2 funud iddynt gael diod ar ddiwedd pob egwyl ac i
newid bibiau. Gadewch iddynt gael hyd at 3 munud ar gyfer hanner amser
a newid drosodd, oni bai fod y gêm yn cael ei chwarae mewn tair
rhan.
- Rhowch anogaeth i newid chwaraewr sydd wedi brifo yn sydyn, os oes angen.
Dylid ailddechrau chwarae cyn gynted â bo modd ar ôl sicrhau
bod y chwaraewr sydd wedi brifo yn iawn ac nid mewn perygl o frifo mwy.
Wrth i chwaraewyr wella a datblygu eu sgiliau, bydd angen llai o addasiadau,
yn enwedig ym mlwyddyn olaf Pêl-rwyd y Ddraig
3. Cylchdroi
O 8 - 11 oed, bydd chwaraewyr angen datblygu sgiliau sylfaenol o ran symud,
pasio, ymosod ac amddiffyn. Yn y cyfnod hwn, ni fydd angen hyfforddiant
yn benodol ynglyn â safleoedd.
Efallai y bydd cylchdroi
yn peri dryswch am yr wythnosau cyntaf, ond mae'n agwedd bwysig ar ddatblygiad
chwaraewr pêl-rwyd. Mae'n gadael i chwaraewyr ddatblygu gwybodaeth
o sgiliau ynglyn â'r holl safleoedd chwarae cyn iddynt arbenigo
mewn un lleoliad neu ran o'r cwrt. Bydd angen hyn er mwyn caniatáu
am batrymau twf, newidiol ac amrywiol y chwaraewyr ifanc.
Efallai y bydd rhai
chwaraewyr yn tyfu'n gyflym pan maent yn ifanc iawn; eto'i gyd, pan maent
yn 12 neu 13, nid hwy yw'r chwaraewr talaf na'r byrraf. Os yw chwaraewyr
yn cael y cyfle i chwarae mewn dim ond 1 neu 2 safle, bydd yn cyfyngu
ar eu datblygiad ac yn y pen draw, yn cyfyngu ar y cymryd rhan a'r mwynhad.
Cyfrifoldeb yr
hyfforddwr yw sicrhau:
- Bod yr holl chwaraewyr yn cael eu cylchdroi yn ôl y cylchdroeon
Tîm 1 a Thîm 2, a bod y cylchdroi'n digwydd ar ddiwedd pob
cyfnod o'r gêm (y tîm a restrir gyntaf ar y pariad fydd Tîm
1).
- Bydd yr holl chwaraewyr ar y cwrt am o leiaf hanner gêm.
- Bydd yr holl chwaraewyr yn cael y cyfle i chwarae a datblygu ym mhob
un o'r 7 safle.
(GK = Gôl-geidwad;
WD = Gwarchodwr Asgell; GD = Gwarchodwr Gôl; C = Canolwr; GA = Ymosodwr
Gôl; WA = Ymosodwr Asgell; GS = Saethwr Gôl)
 
|