Development News and Events Membership Shop Media Terms Site Map Welsh Netball / Pel Rwyd Cymru
Information Teams Education Contact
Home > Development > Dragon Netball > Rules in Welsh
 
RULES IN WELSH Back

Dragon Netball Rules (Welsh)

PÊL-RWYD Y DDRAIG

O fis Medi 2000, gêm Pêl-rwyd Cymru i blant ysgol gynradd yw Pêl-rwyd y Ddraig. Mae hyn yn cymryd lle Minirwyd, sef y gêm a gafodd ei chwarae ar lefel ysgol gynradd mewn blynyddoedd diweddar. Mae Pêl-rwyd y Ddraig yn fenter gan Bêl-rwyd Cymru ac mae'n cydredeg â Rhaglen Chwaraeon y Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru. Rhagwelir y bydd pob ysgol gynradd a phlant oed 7-11 yn chwarae rheolau newydd Pêl-rwyd y Ddraig.

Gwnaethpwyd adolygiad o'r Strwythur Hyfforddi yng Nghymdeithas Pêl-rwyd Cymru. Yn gysylltiedig â chynllun Pêl-rwyd y Ddraig y mae'r cwrs "Dechrau Arni" newydd sy'n cynnwys copi o'r llawlyfr Dechrau Arni. Mae'r llawlyfr yn llawn o syniadau ac arferion hyfforddi ac mae wedi ei fwriadu ar gyfer hyfforddwyr Pêl-rwyd y Ddraig a'r rhai sy'n dechrau eu gyrfa hyfforddi. Mae cyrsiau Dechrau Arni yn cael eu trefnu o gwmpas y wlad am gost o £12 y pen i bawb sy'n cymryd rhan (i aelodau'r CPC). Bydd mwy o fanylion ar gael o Swyddfa'r CPC neu edrychwch ar ein safwe - www.welshnetball.co.uk.

Newidiad yn y Rheolau i Blant sy'n Chwarae Pêl-rwyd y Ddraig

1. Y rheolau pêl-rwyd arferol i oedolion sy'n berthnasol (gweler llawlyfr hyfforddi 'Dechrau Arni' CPC).
2. Mae pyst y gôl yn cael eu newid i 2.6 metr (8 troedfedd, 6 modfedd).
3. Pêl maint 4 yn lle maint 5.
4. Llacio'r rheol 3 eiliad.
5. Llacio'r rheol troedwaith ar ddal y bêl (heb symud i lawr y cwrt).
6. Gall o leiaf 10 fod mewn tîm - mae'n caniatáu newid chwaraewyr (eilyddio) ar chwarter, hanner a thri-chwarter amser.
7. Awgrymir 4 x 8 munud, gellir newid hyn i gyd-fynd â'r amser sydd ar gael.
8. Cylchdroi'r chwaraewyr ar ddiwedd pob chwarter.
9. Caniatáu o leiaf dau chwarter i bob chwaraewr.

Dyfarnwyr

1. Esbonio pob penderfyniad mewn iaith syml.
2. Annog chwaraewyr mewn dull dymunol.
3. Caniatáu gêm agored a di-dor.

Pêl-rwyd y Ddraig

Yr athroniaeth
Athroniaeth chwaraeon y Ddraig yw annog pobl i gymryd rhan a rhoi'r pwyslais ar gael hwyl, diogelwch a datblygu sy'n addas i oed a lefel y chwaraewr.

Bydd y rheolau a roddir ar waith, yr offer a ddefnyddir a strwythur y gêm yn cael eu haddasu. Bydd rhaid i hyfforddwyr, dyfarnwyr a darparwyr cystadlaethau pêl-rwyd i blant iau, wybod, deall ac ufuddhau i'r rheolau yn gysylltiedig â Phêl-rwyd y Ddraig er mwyn sicrhau bod chwaraewyr ifanc yn ddiogel, ac yn mwynhau a datblygu.

1. Offer
Dylid addasu'r offer i gyd-fynd â maint a cham datblygu y chwaraewyr. Bydd hyn yn sicrhau bod y dechneg gywir yn cael ei dysgu a'i rhoi ar waith. Yna datblygir sgiliau a bydd gan chwaraewyr fwy o obaith o gael llwyddiant a mwynhau wrth gymryd rhan.
- Dylai'r holl byst gôl fod yn is, sef 2.6m (8' 6") ar gyfer Pêl-rwyd y Ddraig. Bydd gosod rhwydi'n syniad da.
- Maint 4 fydd y bêl

2. Rheolau
Caiff rheolau oedolion eu defnyddio a'u hyfforddi; fodd bynnag, fe anogir defnyddio'r amodau canlynol
- Llacio'r rheol 3 eiliad (hyd at 6 eiliad) er mwyn rhoi amser i chwaraewyr adennill eu cydbwysedd a gwneud penderfyniadau - sydd angen mwy o amser ar y lefel hon.
- Llacio'r rheol ynglyn â throedwaith, rhoi amser i chwaraewyr adennill cydbwysedd, ond peidio â symud i lawr y cwrt.
- Llacio'r rheol ailchwarae, yn enwedig wrth chwarae y tu allan mewn tywydd oer/gwlyb.
- Gorfodi'r rheol ynglyn â chyffwrdd.
- Dim cost am daflu i mewn yn anghywir, yn lle hynny - egluro i chwaraewyr os oes angen.
- Rhoi eiliad i chwaraewyr fynd yn ôl i safle iawnochri, cosbi'r chwaraewyr os yw'n aros mewn safle camochri ac yn effeithio ar y tîm sydd ddim yn torri'r rheol.
- Rhoi arweiniad i'r chwaraewyr ar y rheolau yn gysylltiedig â thaflu ceiniog er mwyn helpu chwaraewyr i fynd i'w safleoedd cywir.
- Egluro'r holl benderfyniadau mewn iaith syml.
- Rhoi anogaeth i holl chwaraewyr y ddau dîm trwy weithredu mewn dull cefnogol.
- Llacio'r côd gwisg chwaraeon er mwyn gadael i chwaraewyr wisgo trac-drywsusau a thopiau llewys hir (yn lliwiau'r timau os oes modd) ar ddyddiau oer. Hefyd, gadewch i chwaraewyr sy'n perthyn i ddiwylliannau eraill wisgo dillad o safonau derbyniol.
- Sicrhau bod timau'n chwarae gyda phêl maint 4 a bod y pyst gôl ar yr uchder cywir, sef 2.6m (8'6").
- Gellir cadw sgorau'r gemau ond ni ddylid eu darllen yn uchel yn ystod egwyl neu ar ddiwedd y gêm.
- Caniatewch hyd at 2 funud iddynt gael diod ar ddiwedd pob egwyl ac i newid bibiau. Gadewch iddynt gael hyd at 3 munud ar gyfer hanner amser a newid drosodd, oni bai fod y gêm yn cael ei chwarae mewn tair rhan.
- Rhowch anogaeth i newid chwaraewr sydd wedi brifo yn sydyn, os oes angen. Dylid ailddechrau chwarae cyn gynted â bo modd ar ôl sicrhau bod y chwaraewr sydd wedi brifo yn iawn ac nid mewn perygl o frifo mwy.
Wrth i chwaraewyr wella a datblygu eu sgiliau, bydd angen llai o addasiadau, yn enwedig ym mlwyddyn olaf Pêl-rwyd y Ddraig

3. Cylchdroi
O 8 - 11 oed, bydd chwaraewyr angen datblygu sgiliau sylfaenol o ran symud, pasio, ymosod ac amddiffyn. Yn y cyfnod hwn, ni fydd angen hyfforddiant yn benodol ynglyn â safleoedd.

Efallai y bydd cylchdroi yn peri dryswch am yr wythnosau cyntaf, ond mae'n agwedd bwysig ar ddatblygiad chwaraewr pêl-rwyd. Mae'n gadael i chwaraewyr ddatblygu gwybodaeth o sgiliau ynglyn â'r holl safleoedd chwarae cyn iddynt arbenigo mewn un lleoliad neu ran o'r cwrt. Bydd angen hyn er mwyn caniatáu am batrymau twf, newidiol ac amrywiol y chwaraewyr ifanc.

Efallai y bydd rhai chwaraewyr yn tyfu'n gyflym pan maent yn ifanc iawn; eto'i gyd, pan maent yn 12 neu 13, nid hwy yw'r chwaraewr talaf na'r byrraf. Os yw chwaraewyr yn cael y cyfle i chwarae mewn dim ond 1 neu 2 safle, bydd yn cyfyngu ar eu datblygiad ac yn y pen draw, yn cyfyngu ar y cymryd rhan a'r mwynhad.

Cyfrifoldeb yr hyfforddwr yw sicrhau:
- Bod yr holl chwaraewyr yn cael eu cylchdroi yn ôl y cylchdroeon Tîm 1 a Thîm 2, a bod y cylchdroi'n digwydd ar ddiwedd pob cyfnod o'r gêm (y tîm a restrir gyntaf ar y pariad fydd Tîm 1).
- Bydd yr holl chwaraewyr ar y cwrt am o leiaf hanner gêm.
- Bydd yr holl chwaraewyr yn cael y cyfle i chwarae a datblygu ym mhob un o'r 7 safle.

(GK = Gôl-geidwad; WD = Gwarchodwr Asgell; GD = Gwarchodwr Gôl; C = Canolwr; GA = Ymosodwr Gôl; WA = Ymosodwr Asgell; GS = Saethwr Gôl)

 

 

 

 

 

 


^ Back to Top of Page



   
  Information
News
Sponsors
History

Equity
UKBA Endorsement
Bye Laws
Directors
Committees
Memorandum & Articles
Anti Doping
Annual Reports
Vacancies
Strategic Plan
Archive
FAQs

Teams
Wales Senior
Celtic Dragons
Junior Dragons

Under 21s
Under 19s
Under 17s
Under 15s
High Performance Hubs
Talent ID
Performance Pathway
Eligibility

Education
Starting Out
UKCC
Coaching Pathway

Courses
Student Bursary
Community Coaches
Coaching Sessions
Coaching Adverts
Umpire Qualifications
Team Manager Training
Coaching Resources
Umpiring Resources

Contact
Staff Who's Who
Office Opening Times
Directions
Enquiry Form
Club Finder
Site Map







HOME
  SPONSORS

Welsh Netball sponsors include... Sports Council for Wales, Arriva Trains Wales, inspire sport, UWIC, DE photo, ty hafan, 100% ME, Gilbert
     
 
  © 2010 Welsh Netball Association | Website design and construction by Horizon Digital Media Ltd
Site MapHome